Mae blynyddoedd cyntaf pob plentyn yn rhai pwysig:
- maen nhw’n dysgu pwy ydyn nhw
- pwy sy’n eu caru
- sut i ddod ymlaen gydag eraill
- pa mor bell fedran nhw fynd!
Mae’r cwrs 6 wythnos hwn yn sôn am gefnogi rhieni yn ystod y blynyddoedd hyn – yn cynnig syniadau, anogaeth ac amser i ystyried materion sy’n effeithio arnoch chi a’ch teulu.
Mae’r chwech sesiwn craidd yn cynnwys :
- Cyfarfod ag anghenion emosiynol plentyn
- Rhoi hwb i berthynas rhiant / plentyn
- Chwarae
- Cyfathrebu
- Arddull rhianta
- Strategaethau i annog ymddygiad positif
- Gosod terfynau cariadus
- Diogelu’r plant
- Bwlio
Mae pob plentyn yn wahanol
- Bydd unrhyw riant sydd â mwy nag un plentyn yn dweud wrthych chi fod pob plentyn YN WAHANOL – mae personoliaeth a gallu pob un yn unigryw
- Nid yw’r hyn sy’n gweddu i un plentyn bob amser yn gweddu i’r llall
- Mae rhai plant YN fwy anodd i’w trin na phlant eraill
- Mae gan rieni plentyn anodd neu benderfynol waith dipyn caletach, ac mae’n hawdd iddyn nhw deimlo’n annigonol, neu hyd yn oed ofni eu plentyn
- Weithiau daw’r teimlad mai’r plentyn sy’n rheoli’r holl deulu!
- Mae’n hawdd esgeuluso anghenion plentyn ‘hawdd’ os oes gennych blentyn anodd sy’n mynd â’ch egni i gyd
Mae deall personoliaeth ac anghenion unigryw pob plentyn yn ein helpu i ymateb yn fwy positif iddyn nhw.
Mae gan bob plentyn anghenion
Maen nhw angen:
- Profi cariad a pherthynas
- Amser a sylw – er mwyn iddyn nhw deimlo’n dda amdanyn nhw’u hunain
- Cyfleoedd – i sylweddoli eu bod yn dda am wneud rhai pethau
- Ffiniau – er mwyn iddyn nhw deimlo’n ddiogel
Dyma ddywedodd rhai rhieni am y cwrs:
“Fe ddangosodd i mi y pethau da yr o’n i’n eu cyflawni
gan wneud i mi deimlo yn fwy positif fel mam.”
“Mi ddysgais sut i ddelio ag ymddygiad drwg, sut i feithrin hunan-barch yn fy mhlant,
a sut i gywiro’r camgymeriadau yr o’n i eisoes wedi eu gwneud.”
Pwy yw Positive Parenting?
Mae’r Cwrs Rhianta wedi cael ei gynllunio gan yr elusen Positive Parenting a gafodd ei sefydlu yn Portsmouth dros 35 o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn mae’n adran o’r elusen Care for the Family.
Datblygodd Positive Parenting yn fuan i fod yn un o’r elusennau rhianta mwyaf blaenllaw, yn cynhyrchu adnoddau a darparu hyfforddiant i rieni a’r rhai sy’n gweithio hefo nhw.
Mae’r deunydd wedi ei ymchwilio yn dda ac mae iddo agwedd ymarferol, synhwyrol a hawdd ei ddefnyddio, ac mae’n hygyrch a phoblogaidd iawn ymysg rhieni.
Am fwy o wybodaeth am yr elusen, ewch i www.parenting.org.uk
Ydych chi wedi clywed am Care for the Family?
Mae Care for the Family yn elusen genedlaethol sy’n ceisio hybu bywyd teuluol cadarn a helpu’r rhai sy’n wynebu helbulon teuluol. Maen nhw’n cynhyrchu adnoddau ac yn cynnal digwyddiadau ar gyfer grwpiau amrywiol gan gynnwys rhieni sengl, rhieni mewn profedigaeth, rhieni pobl ifanc yn eu harddegau, a rhieni plant ag anghenion arbennig. Mae’n nhw yn ogystal â hyn yn delio â materion priodasol, ariannol ayb.
Beth am ymweld â’u gwefan? www.careforthefamily.org.uk
Felly, os hoffech sgwrs bellach, gallwch gysylltu â
Sarah Morris 029 20620424 meirionasarah@yahoo.co.uk neu
Siân Edwards, Coleg y Bala 01678 520565 neu
Swyddfa Positive Parenting 029 20810800
Sylwadau Diweddar