10 syniad i famau newydd er mwyn lleihau pwysau
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amser i chi’ch hun bob hyn a hyn
Os yn bosib, cymrwch fath hir gyda swigod a chanhwyllau- a bar o siocled efallai!
- Ceisiwch gymryd ymarfer corff rheolaidd
E.e. cerddwch pan fedrwch chi – mae’n lleihau pwysau ac mae’n dda ar gyfer llosgi braster ! (RHYBUDD: fe all jogio fod yn ddrwg i’ch iechyd: mae ‘tights’ rhai merched wedi mynd ar dân wrth i’w cluniau rwbio hefo’i gilydd yn gyflym wrth jogio!
- Ewch i’r afael â’ch tasgau mawr trwy eu torri’n ddarnau llai
Mae rhai pethau am fod yn anodd a does dim llawer y gallwn wneud i newid hynny. Fodd bynnag wrth edrych yn ôl ar y pethau a oedd yn ein poeni fwyaf, yn aml gallwn chwerthin amdanynt bellach felly ceisiwch ymlacio pan fo modd gwneud hynny.
- Ceisiwch ddyfnhau eich cyfeillgarwch a’ch perthynas gyda’ch teulu
Gwnewch y pethau y credwch ydynt; manteisiwch ar eich cryfderau, a dilynwch eich breuddwydion os gallwch chi.
- Gwyliwch rhag arwyddion cyntaf pwysau.
Cur pen, crafu, blinder, problemau stumog, gweiddi ar y plant ayb. Os oes arwyddion eich bod o dan bwysau, ceisiwch gael hyd i rywun i siarad hefo nhw.
- Cadwch mewn cysylltiad gyda ffrindiau
Danfonwch gerdyn neu ffoniwch rywun nad ydych wedi siarad â hwy ers tro.
- Peidiwch â dweud “Ie” i bopeth!
Does dim rhaid ichi brofi eich hun. Dysgwch ddweud ‘na’ bob hyn a hyn- gallwch ymarfer y grefft yma o flaen drych os oes angen!
- Dechreuwch ddiddordeb newydd fel teulu.
Bydd hyn yn cynnig amseroedd da gyda’ch gilydd a fydd yn hwyliog a chofiadwy
- Penderfynwch pa lefel o lanast sydd yn dderbyniol gennych chi
Peidiwch â theimlo bod rhaid i’r tŷ fod 100% yn dwt trwy’r adeg (Beth am ddysgu eich plant i sillafu yn y llwch ar y bwrdd coffi weithiau!)
- Daliwch i chwerthin!
Benthyciwch DVD o sioeau comedi; trefnwch fynd am goffi gyda ffrindiau i weld pwy sydd â’r stori ddoniolaf i ddweud am eu hwythnos.
Sylwadau Diweddar