Tystiolaeth

Posted on Ebr 15, 2014

Rebecca DutfieldRoeddwn yn arfer meddwl bod fy nhystiolaeth i yn un ddiflas iawn o’i chymharu â thystiolaeth pobl eraill.’Ches i mo f’achub o fywyd o gymryd cyffuriau neu fywyd o drais, nid dewis ffydd o flaen fy nheulu wnes i ac yn sicr wnes i ddim cael profiad o unrhywbeth gwyrthiol.Wedi’r cwbl, roeddwn wedi fy magu mewn teulu Cristnogol; am werthoedd Cristnogol yn unig roeddwn yn gwybod ac ni newidiodd dim yn ddramatig pan benderfynais i ddod yn Gristion yn fy arddegau.

 

Fodd bynnag, fedrwn i ddim gwneud mwy o gamgymeriad, er iddi gymryd rhai blynyddoedd i mi sylweddoli hynny.

 

Fe ddois i’n Gristion yn fy arddegau pan benderfynais fod angen i mi roi’r gorau i wybod am Dduw ac i ddod i’w ’nabod yn bersonol. Roedd hi’n ymdrech yn y blynyddoedd cyn i mi fynd i’r brifysgol gan nad oedd yna bobl ifanc eraill yn fy eglwys ac roedd hi’n anodd byw Cristnogaeth yn ymarferol o ddydd i ddydd. Beth bynnag, fe fu fy mlynyddoedd yn y brifysgol yn gymorth mawr i mi ddysgu, tyfu a deall beth ydi gwir ystyr bod yn Gristion.

 

Fe ddechreuais sylweddoli bod fy mhenderfyniad i ddilyn Iesu yn rhywbeth dramatig a gwyrthiol; roedd Duw wedi fy achub i o fywyd o bechod ac wedi agor fy llygaid i weld ei gariad, ei ras a’i drugaredd. Ar un adeg roeddwn yn farw mewn pechod, yn teimlo’n wag ac heb obaith. Yn awr rydw i’n fyw yng Nghrist, yn llawn o’i ysbryd ef ac yn gorlifo o obaith a sicrwydd. Er enghraifft, hyd yn oed pan ydw i’n brwydro mewn cyfnodau o iselder a phwysau gwaith fe fedra i sefydlu fy ngolwg ar Iesu a thynnu nerth o’r addewidion yn ei Air.

 

Mae’r Duw roeddwn wedi clywed amdano wrth dyfu i fyny wedi dod yn real iawn i mi, rydw i’n ei ’nabod Ef ac mae ei gariad yn hawlio fy mywyd, fy enaid a phopeth arall.Rydw i wedi ei weld ar waith yn fy mywyd ac ym mywydau pobl eraill, ac fe wn yn iawn fod Duw yn gweithio dros y rhai sydd yn ei garu yn unol â’i bwrpas ei hun. Fe wn i y bydd beth bynnag fydd yn digwydd, da neu ddrwg, yn unol â phwrpas Duw. Mae’n fy ngharu a dydi o byth yn fy ngadael; mae’n rhoi nerth i mi wynebu mwy nag y medra i ymdopi ag e fy hun. Bob yn dipyn mae’n fy nysgu, fy mowldio, yn fy newid ac yn fy arwain i’w ’nabod ef yn well ac i ddod yn debycach iddo. Mae’n fy herio ac yn fy annog i fyw yn ôl ei Air. Mae’n galed i farw i’r hunan, i gael fy ngwneud yn debyg i Iesu i frwydro yn erbyn y pechodau sy’n ein drysu mor rhwydd, ond roedd hi’n fwy na chaled i Iesu fynd i’r groes i wneud perthynas ag ef yn bosibl. Dydw i ddim yn brwydro ar fy mhen fy hun am fod Iesu bob amser wrth f’ochr, yn maddau bob tro rydw i’n methu ac yn dangos i mi sut i ddibynnu arno ef.

 

Rebecca Dutfield

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *