Y Cariwr Beichiau

Posted on Meh 24, 2013

SunnivaMae bywyd heb Dduw yn iawn mae’n debyg. I unrhyw un sy’n byw heb Dduw, does ond angen gofyn, bywyd yw bywyd. Mae’n iawn.

Dyna oedd fy hanes i beth bynnag. O’r hyn a wyddwn i dyna oedd bywyd; doedd dim amdani ond gwneud y gorau ohono.

Realiti pethau oedd bod fy mywyd yn llanast llwyr. Roedd fy rhieni wedi gwahanu, roedd fy nhad wedi symud allan ac roedd fy Mam wedi troi yn fath o anghenfil. Roedd ei phryder a’i hiselder cynddrwg ar adegau fel na allai adael y tŷ neu fynd am gawod am wythnosau. Roedd hi fel twll du yn llyncu tosturi ac yn byw oddi ar ynni pobl eraill. Byddai’n ymwelydd cyson â wardiau seiciatryddol, weithiau’n chwilio am help yn wirfoddol, dro arall yn cael ei gorfodi i aros yno am gyfnod, unwaith wedi iddi geisio ei lladd ei hun. Bob tro y byddai yno, byddai’n rhaid i mi a fy chwaer fach aros gyda theuluoedd maeth lleol hyd nes y byddai’n dod adref: yn fregus a llawn ofnau ac felly roeddan ni’n ôl yn byw gyda bom a oedd yn tician i bob pwrpas. Mae’n debyg fy mod i wedi dod yn fam sbâr yn 12 oed.

Wrth i’r baich hwn gynyddu, roeddwn yn fy nghysuro fy hun trwy fwyta gan ddod yn gaeth hefyd mewn ffyrdd a oedd yn creu ofn, cywilydd ac ansicrwydd. Yn fy ngolwg fy hun, roeddwn yn dew ac yn hyll a byddwn yn gwneud hwyl am fy mhen fy hun, gan wneud i eraill chwerthin, a hynny yn ei dro yn cynnig hunanwerth i mi “y ferch ddoniol hefo’r pen-ôl mawr”. Mewn unrhyw barti, byddai’n amhosibl gwrthod y sylw lleiaf gan ddyn meddw. Roeddwn yn crefu am gariad a sefydlogrwydd. Roedd bywyd yn un llanast mawr. Ond pe bai rhywun wedi gofyn i mi, byddwn wedi dweud fy mod yn iawn.

Doedd gen i ddim syniad am fodolaeth rhywun a oedd yn fy adnabod yn llawer gwell nag oeddwn yn f’adnabod fy hun. Un a welai fy holl ymdrechion, a deimlai fy holl boen ac a oedd am fy rhyddhau, fy ngwneud yn bur a rhoi gobaith a bywyd newydd i mi.

Fe ddois ar draws Iesu gyntaf mewn gwasanaeth eglwys yn ystod y Nadolig. A minnau’n anffyddwraig, es i yno yn anfoddog fel rhan o gwrs AG yn fy ngholeg. Wrth i’r offeiriad derfynu’r gwasanaeth mewn gweddi, cyffyrddodd ei eiriau fy nghalon: “Arglwydd, gweddïwn dros y rhai hynny sydd ar eu pen eu hunain y Nadolig hwn, y rhai hynny sydd yn isel”. Mewn chwinciad, chwalwyd yn ddarnau y cyflwr o fod yn iawn a’r holl ymdrechion hynny i anwybyddu fy holl feichiau. Roedd realiti pethau’n glir: doeddwn i ddim yn gallu helpu fy mam, ac roedd y sefyllfa’n echrydus o boenus.

Yna, yng nghanol yr holl boen, daeth Iesu. O fewn eiliadau, roedd fy mhoen wedi diflannu ac yn ei le daeth cariad rhyfeddol, llawenydd a thangnefedd bendigedig, a’r rheiny’n fwy pwerus nag unrhyw emosiynau yr oeddwn wedi dod ar eu traws o’r blaen. Roedd synnwyr o ryddhad yn treiddio trwy fy holl gorff, wrth i rywbeth newydd, ffydd a gobaith lamu o’r tywyllwch. Roedd fel petai fy llygaid yn gweld rhan newydd o realiti a’m bydolwg wedi troi 180 gradd mewn ennyd. A thrwy’r cwbl, y synnwyr dwys hwn o gael fy ngharu. Er nad oeddwn i’n gwybod llawer am y Duw hwn, roeddwn yn siŵr ei fod yn bodoli ac fe wyddwn bod yn rhaid imi ei ddarganfod, a bod yn rhaid imi ei adnabod.

Wrth geisio am le mewn Prifysgolion flwyddyn yn ddiweddarach, roeddwn wedi ceisio deall y cwbl  ar fy mhen fy hun, a hynny’n golygu mai cynnydd araf iawn wnes i o ran fy ngwybodaeth am y Duw rhyfeddol hwn. Roedd yn parhau i’m hatgoffa o’i bresenoldeb ac roedd yr Ysbryd Glân wedi dechrau glanhau fy mhechodau heb imi wybod hynny, ond teimlwn fy mod yn cael fy ngwasgu rhwng y person a arferwn fod a’r person newydd hwn yr oedd Duw yn ei greu. Roeddwn yn ysu am gael ei adnabod yn well a gweddïais weddi oedd i siapio’r flwyddyn ganlynol, “O Dduw, helpa fi i adael fan hyn, a rho fi mewn lle newydd ble gallaf gychwyn eto, dysgu amdanat ti a bod yr hyn yr wyt ti am imi ei fod”.

A dyna ddigwyddodd. Trwy hap, cyrhaeddais Abertawe. Fe’m cyflwynwyd i’r frawdoliaeth ryngwladol yn Eglwys Bresbyteraidd Argyle a Rhyddings ac i’r grŵp Astudiaethau Beiblaidd yn nhŷ’r gweinidog, Charles, a’i wraig, Molly. Dechreuais dyfu a dysgu, gan astudio mwy ar y Beibl nag ar fy mhynciau Prifysgol. Roeddwn i’n gwybod mai pwrpas bod yno oedd tyfu mewn dealltwriaeth ohono Ef: eilbeth i hynny oedd y Brifysgol.

Wrth imi astudio, deallais y gwirionedd am Iesu, a sut y mae wedi maddau fy mhechodau a gorchfygu Satan a dal y grym i’m rhyddhau rhag caethiwed a phechod. Fe ddois i’w adnabod fel iachäwr, y sawl sydd yn barod i iacháu holl glwyfau’r gorffennol wrth imi eu hildio iddo. Trwy ddysgu cyflwyno fy mhroblemau, fy ngofalon, fy meichiau a’m hofnau, y cwbl oll i Iesu, rwy’n newid trwy waith ei Ysbryd Glân ynof fi. Mae’n fy nysgu fel y gallaf innau fod yn ddisgybl effeithiol iddo gan adlewyrchu ei ogoniant ef ei hun maes o law.

O’r ferch ifanc ofnus ac ansicr honno byddai merch i Dduw yn codi, a thrwy ras Duw a gwirionedd ei air, nid oes rhaid iddi mwyach sefyll ar ei hunanwerth ei hun ond yn hytrach ar ei hunaniaeth newydd fel merch y Brenin. Bu’n ffyddlon iawn yn fy nhynnu ato, yn fy argyhoeddi o’m pechodau, yn fy helpu i’w goresgyn a’m newid yn rhywun yr arferwn ddymuno y gallwn fod (a llawer mwy). Pur, glân, rhydd.

A’r peth gorau oll? Mae’r Arglwydd Iesu wedi dechrau gweithio ym mywyd fy Mam hefyd, gan dorri cadwyni’r pryder, goresgyn ei hiselder ac iachâu ei hen glwyfau a oedd ar un adeg yn rhy boenus iddi feddwl amdanynt. Mae ein perthynas wedi’i osod ar seiliau newydd, Iesu Grist sydd yn maddau i ni ac yn ein newid.

Mae Iesu mor rhyfeddol o rymus, mor hynod amyneddgar ac mor gariadus o ffyddlon. Rŵan, dwi’n llawer mwy na iawn. Mewn gwirionedd, rwy’n fwy na choncwerwr trwy’r un sydd yn fy ngharu, a does dim oll all fyth gymharu â gwobr ryfeddol y bywyd newydd yn Iesu Grist.

Sunniva Jonsen

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *