Ymddiried yn Nuw

Posted on Meh 24, 2013

546594_blue_cross_2Dwn i ddim faint ohonoch chi ddarllenwyr sy’n rhedwyr. Yn ddiweddar fe lwyddais i redeg fy ras 10k cyntaf! Doedd yr amser ddim yn wych a dweud y lleiaf! Ond llwyddais i orffen y ras ac i gyflawni fy mwriad.

Flwyddyn yn ôl collais un o’m ffrindia pennaf. Rhedais y ras er cof amdani. Roeddwn yn adnabod Menna ers dyddiau ysgol, ffrindia’ Glan Llyn a ‘Steddfod a ballu. Lle a phryd bynnag y byddwn yn ei chyfarfod roeddem yn cychwyn yn yr union le y gadawsom ein sgwrsio y tro cynt.

Un pnawn braf ddiwedd Awst 1999, fe alwyd Huw a minnau i gyfarfod a phwyllgor bugeiliol gofalaeth Bethesda’r Wyddgrug a Soar Nercwys; roedd y cyfan i fod yn gyfrinach. Ond pwy welais i ar y stryd fawr tu allan i Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug ond Menna. Yn ei chroeso arferol dyma hi’n gofyn i mi,

“A be ti’n da yn fama efo’r bol mawr yna?!”

Doeddwn i ddim yn siwr sut i’w hateb, achos roedd y cwbwl i fod yn gyfrinach, doedd yna neb ond Huw, fi a blaenoriaid yr ofalaeth i fod i wybod. Wrth geisio osgoi’r cwestiwn dyma hitha’n dweud yn ei ffordd chwareus ei hun.

“Ma’ gen inna gyfrinach hefyd, a mi ‘na i ‘i rhannu hi efo chdi, os ‘nei di rannu dy gyfrinach di efo fi gynta.”

A dyna ni, y ddwy ohonom wedi gwirioni efo cyfrinach y naill a’r llall. Roedd y ddwy ohonom yn feichiog, ar ddwy ohonom yn edrych ymlaen yn barod am gael treulio mwy o amser yng nghwmni ein gilydd yma yn Yr Wyddgrug.
Profiad chwerw a gwag iawn fu derbyn y newyddion am salwch Menna yn Hydref 2011. Brwydrodd yn erbyn yr afiechyd yn wrol a chadernid ei chymeriad yn amlwg am chwe mis. Fis Ionawr llynedd wedi i mi ddychwelyd yn ôl i ‘ngwaith yn y carchar ar ôl cyfnod o wyliau Nadolig, bu’n rhaid i mi godi’r ffôn ar Menna i ddweud wrthi na allwn ddod i’w gweld gan fy mod wedi cael doluriau annwyd ar fy ngwefusau.  Dyma oedd ei hymateb.

“Braf arna ti Nan, mi fedri di wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, rho’r gora i dy waith yn y carchar. Does gen i ddim dewis ynglŷn â f’afiechyd i.”

Ystyriais eiriau Menna yn ddwys ac yn ddifrifol. Sgwrsiais a gweddïais gyda Huw, a chefais noson ddi-gwsg cyn dychwelyd yn ôl i’r carchar y diwrnod wedyn yn cynnig fy ymddiswyddiad. Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn yn mynd i’w wneud, na sut oeddem am dalu pob bil sy’n dod wrth geisio magu tri o blant yn eu harddegau ‘chwaith. Ond rywsut fe deimlais yr heddwch dyfnaf a deimlais erioed wrth ildio fy hun yn llwyr i ewyllys Duw.

Yn ystod y misoedd oedd i ddilyn, fe wellodd Menna ryw fymryn, roedd y chemo wedi gweithio ar y prif ganser ac roedd yn llwyddo i ennill rhywfaint o bwysau. Wrth i ddiwedd Ebrill agosáu, roedd Menna’n dechrau gwaelu eto, ond yr oedd yn parhau i ofyn yr un cwestiwn:

“Faint o gysgu sydd gen ti eto cyn gorffen yn y carchar, Nan?”

Roedd yr amser yn agosu, feddyles i erioed ar y pryd pa mor werthfawr oedd pob munud a dreuliais gyda Menna yn y dyddiau olaf hynny. Roedd y ddwy ohonom yn ein hymddiried ein hunain yn llwyr i ewyllys Duw, i’w fwriad Ef ar ein cyfer. Roedd ei gariad a’i heddwch dwfn Ef yn gynhaliaeth na phrofais ei thebyg.

Ddydd Iau y 26ain o Ebrill 2012 am 7.30 y.b. wrth gyrraedd carchar Altcourse yn Lerpwl i weithio fy niwrnod olaf fel Caplan yno, daeth galwad ffôn gan Phil, gŵr Menna, yn dweud ei bod wedi gwaelu yn sylweddol yn ystod y nos. Gadewais y carchar mewn byr o dro, a chyrraedd Hospis Ty’r Eos i ffarwelio â Menna am y tro olaf. Bu farw Menna yn dawel yng nghwmni ei theulu amser cinio y diwrnod hwnnw.

Dyma’r Gair oedd yn abl i’n cynnal yn ystod y misoedd tywyll hynny. Diolch Iddo.

1 Ioan 4:1-19

“Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni’n ofnus mae’n dangos ein bod ni’n disgwyl cael ein cosbi, a’n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu’n llwyr gan gariad Duw. Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf” (beibl.net).

Nan Powell Davies

One Comment

Join the conversation and post a comment.

  1. Christina Jones

    Diolch am rannu dy brofiad mewn ffordd mor hyfryd. Wedi ffeindio bod Duw yn hollol eirwir yn yr adnod yma ‘Ymnerthwch yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei allu Ef’ (gyda phwyslais ar yr EF) ar adegau pan mae ofn neu boen bron a gwneud i mi fygu. x

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *