Ym mis Mai, daeth staff Coleg y Bala ac ambell i ffrind dewr ynghyd ar gyfer taith Mari Jones ar hyd 26 milltir i godi arian ar gyfer yr ymgyrch A21.
Trefnwyd y daith noddedig gan Angharad Clwyd wedi iddi glywed rhai ystadegau damnïol am fasnachu mewn pobl heddiw a’r gwaith a wna A21 er mwyn helpu dioddefwyr a chodi ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r broblem.
Meddai Angharad: “mae masnachu mewn pobl yn ddiwydiant troseddol wedi’i drefnu sydd yn effeithio ar bob gwlad. Er y gall yr ystadegau ymddangos yn llethol, mae’n bwysig cofio bod pob rhif yn cynrychioli bywyd dioddefwr. Mae Ymgyrch A21 wedi cydnabod angen arwyddocaol yn rhanbarth Ewrop ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael a’r anghyfiawnder hwn trwy achub un bywyd ar y tro”
Wedi siwrne fasnach sydd fel arfer yn cynnwys twyll, treisio, curiadau a bygythiadau cyson, gorfodir y dioddefwyr yn aml i fyw mewn amodau caeth heb fawr o lendid. Unwaith y byddant yn cael eu rhoi ar waith, gall dioddefwyr y fasnach mewn pobl orfod gwasanaethu rhwng 40 i 110 o gwsmeriaid pob dydd. Mae diffyg maeth, diffyg cwsg ac aflonyddu emosiynol a chorfforol yn rhan o’r drefn ddyddiol.
Ar ben yr aflonyddu, mae terfyniadau a gaiff eu gorfodi, a datblygu SI, Hepatitis B a C ac AIDS hefyd yn fygythiadau holl presennol. Mae bywyd dioddefwr yn y fasnach mewn pobl yn uffern ar y ddaear. Yr anghyfiawnder hwn yw’r rheswm dros fodolaeth A21.
Ychwanega Angharad: “Mae straeon y merched gaiff eu prynu a’u gwerthu ac yna eu defnyddio fel caethweision rhywiol yn dorcalonnus ac mae’n anodd credu bod y ffasiwn gamdriniaeth erchyll yn gallu digwydd heddiw ac mor agos atom. Dyna pam yr oeddem eisiau codi arian ar gyfer yr elusen A21’’.
Gallwch ddarllen mwy am y fasnach mewn pobl a gwaith A21 ar eu gwefan: A21campaign.org
One Comment
Join the conversation and post a comment.
Bum yn rhoi sgwrs ar Daith Mari Jones yng Nghymdeithas Chwiorydd Capeli Machynlleth nos Fawrth. Gan i mi arwain y daith A21 i Angharad Llwyd a chriw Coleg y Bala ar Fai 26/27 roeddwn yn medru tynnu sylw’r merched at yr ymgyrch yma a hefyd eu cyfeirio at wefan Dorcas. Roeddent yn rhannu Bwletin Cenhadol Rhif 65 a chyfeiriais at yr erthygl Rhaglen Dorcs ynddo.