Dinas a osodir ar fryn

Posted on Ebr 24, 2013

Mathew 5: 14 – 16

 

‘Chi ydy’r golau sydd yn y byd. Mae’n amhosib cuddio dinas sydd wedi ei hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i’w gosod o dan fowlen! Na, dych chi’n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. Dyna sut dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi’n eu gwneud’.  (beibl.net)

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefais fy nghyffwrdd dro ar ôl tro gan eiriau cân sydd wedi ei seilio ar eiriau Iesu am y ‘ddinas a osodwyd ar fryn’. Y gân yw ‘City on a hill’ gan grŵp Cristnogol o’r enw ‘Casting Crowns’. Mae geiriau eu caneuon ar yr un llaw yn heriol ac ar y llaw arall yn ein hannog – yn ein hatgoffa o her yr Arglwydd Iesu i ni fyw ein bywyd yn anhunanol er Ei fwyn, ac hefyd o’i  eiriau sy’n ein cynhesu a’n nerthu pan fyddwn yn teimlo’n wan ac yn methu.

 

Yn y gân ‘City on a hill’ ceir darlun o ddau hen ŵr yn edrych ar ddinas ar fryn, dinas a fu unwaith yn llawn goleuni ac yn tynnu pobl ati. Ond bellach, mae sglein y ddinas wedi pylu wrth i’w thrigolion droi ar ei gilydd. Cawn wybod mwy yn yr ail bennill:

 

‘You see the poets thought the dancers were shallow
And the soldiers thought the poets were weak
And the elders saw the young ones as foolish
And the rich man never heard the poor man speak.’

 

Dywed Mark Hall, awdur y geiriau, ei fod yn gweld y darlun yma o fewn Eglwys ein Harglwydd Iesu, lle’r ydym i fod yn gorff o bobl, pob un â’i ddawn a’i gryfder i’w cynnig i adeiladu’r Eglwys, ond ein bod yn ei chael hi’n hawdd syrthio a meddwl mai ein ffordd ni yn unig sy’n iawn. Anogwr oedd Barnabas, ei dweud hi’n blaen roedd Pedr, ac roedd cyfraniad y ddau yr un mor bwysig â’i gilydd. Pan feddyliwn am y deuddeg disgybl, roedden nhw’n griw gwahanol iawn i’w gilydd, ond roedd Iesu wedi eu dewis i weithio gyda’i gilydd – o’r casglwr trethi i’r gwrthryfelwr!

 

Ac felly rydym ninnau – yn bobl wedi ein dewis gan yr Arglwydd i fod yn bobl Iddo, ac i weithio fel tîm er Ei fwyn. Mae hi mor hawdd cael ein dal yn y fagl o feddwl mai ein ffordd ni o gyflawni tasg yw’r ffordd orau, ac o weld bai ar ffordd rhywun arall. A phob tro y byddwn yn gwneud hyn, bydd y golau yn ein lamp yn pylu. Efallai ein bod angen meddwl beth sydd bwysicaf ambell waith, cyflawni’r dasg neu’r cydweithio a wnawn gyda’n brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist, a’n perthynas gyda hwy. Bryd hynny y byddwn yn dechrau deall ystyr y geiriau sydd tua diwedd y gân:

 

‘It is the rhythm of the dancers that gives the poets life
It is the spirit of the poets that gives the soldiers strength to fight
It is the fire of the young ones, it is the wisdom of the old
It is the story of the poor man that’s needing to be told’.

 

Ond y rhan o’r gân sydd yn fy nghyffwrdd fwyaf bob tro y gwrandawaf arni yw’r anogaeth i bob un ohonom sydd wedi teimlo bod ein cyfraniad wedi cael ei ddiystyru gan frawd neu chwaer, ac sydd wedi pwdu a throi cefn mewn rhyw ffordd. Mae hi’n cloi gyda gwahoddiad y Tad i ddod adre – adre’n ôl i’r ddinas, adre’n ôl i gymdeithas y Ffydd, adre’n ôl i’r ‘ddinas ar y bryn’. Unwaith yr ydym ni wedi rhoi ein Ffydd yn yr Arglwydd, dyma yw ein lle. Pan ydym ni wedi derbyn rhodd mor werthfawr o ras, nid ei guddio sydd ei eisiau, ond ei rannu.

Os am glywed y gân a darllen y geiriau i gyd, ewch i: http://www.youtube.com/watch?v=XJ5R08xDC6c

Nia W Williams

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *