Llyfr y Mis: Creative bible lessons from the life of Christ gan Doug Fields (Zondervan)

Posted on Chw 2, 2013

Llyfr hyfryd sy’n cyflwyno Iesu Grist yn Dduw; yn Ddyn; yn Iachawr; yn Achubwr; yn Was; yn Fugail; yn Ddarparwr; yn Faddeuwr; yn Arwr; yn Waredwr; yn Fuddugwr.

Mae’r merched yn ysgrifennu llythyr i Iesu ar ddechrau’r gyfres, gan nodi beth maent yn gwybod amdano, beth hoffwn ei wybod, ac unrhyw amheuon neu cwestiynnau sydd ganddynt. Mae’r arweinydd yn cadw’r llythyron tan diwedd y gyfres pryd agorir y llythyron eto, ac ar ôl eu hail ddarllen, mae’r grŵp yn rhannu os mae eu teimladau a’u dealldwriaeth o Iesu wedi newid o gwbl ers iddynt ysgrifennu’r llythyron, ‘Annwyl Iesu.’

Cewch esboniad ar sut i ddefnyddio’r llyfr, cyngor ar sut i drefnu grwpiau, am ddulliau dysgu gwahanol a syniadau ar sut i fod yn greadigol wrth ddefnyddio’r llyfr. Gwnaethom mwynhau’r llyfr hon yn fawr iawn – arweinwyr, a phobl ifanc!

Dawn Wilks

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *