Llwybr Mari, Llwybr Ni
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â hanes Mari Jones yn cerdded 26 milltir i brynu Beibl Cymraeg. Ond beth ddigwyddodd iddi wedyn?
Bu farw Mari yn 80 oed. Roedd y Beibl wedi bod yn gysur ac yn ganllaw iddi ar hyd y blynyddoedd. Mae gan ei bywyd a’i ffydd wersi i ni heddiw – a dyna destun sesiwn arbennig sydd wedi cael ei greu ar ein cyfer.
Cyflwyniad Arbennig
Mae Is-Bwyllgor y Chwiorydd wedi cydweithio â Byd Mari Jones i drefnu sesiwn arbennig ar gyfer grwpiau o ferched. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyfle i edrych ar gwahanol agweddau o fywyd a ffydd Mari, a chyfle i wrando ar dystiolaethau gan ferched sy’n trysori Gair Duw heddiw. Dyma gyfle i dderbyn anogaeth ac ysbrydoliaeth newydd o hen hanes cyfarwydd ac annwyl.
Am fwy o fanylion neu i drefnu sesiwn yn eich capel/dosbarth/henaduriaeth cysylltwch â
Sarah 02920620424 sarah@ebcpcw.org.uk
Carys 01678 520065 carys.davies@ebcpcw.org.uk
Eirian 01678 520065 eirianebcpcw@outlook.com
Os am drefnu Encil ym Byd Mari Jones, Llanycil (sy’n cynnwys cinio a the prynhawn) cysylltwch â
Nerys Nerys.Siddall@biblesociety.org.uk
Sylwadau Diweddar