Prosiectau 2017/18
Unwaith eto eleni rydym wedi ceisio dewis prosiectau a fydd yn eich ysbrydoli a’ch cynorthwyo yn eich cyfarfodydd. Gobeithiwn hefyd bydd y prosiectau yn eich helpu i ymestyn at rai nad ydynt yn mynychu’r capel. Cynllun Pontio – syniadau ar sut y gallwn gefnogi pobl yn ein cymunedau sy’n wynebu heriau bywyd, yr unig, Gofalwyr, rhai sy’n byw gyda dementia. Syniadau gweu a crosio. Darllen mwy yma http://rhaglendorcas.com/?page_id=1700 Yn rhan o’r Cynllun Pontio cynhyrchwyd 2 adnodd...
Read MoreCynhadledd Un o Bob Tair
Un o Bob Tair yw’r nifer o ferched ym Mhrydain sy’n dioddef trais oherwydd eu rhyw yn ystod eu bywydau. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael sioc wrth ddeall mor gyffredin yw trais yn y cartref heddiw, a’i fod hyd yn oed yn digwydd o fewn yr eglwys. Nod y gynhadledd, a drefnwyd gan Gweini, oedd addysgu arweinyddion eglwysi am fodolaeth a sgil-effeithiau trais yn y cartref ac annog eglwysi i fod yn llefydd sy’n cymryd trais yn y cartref o ddifrif, gan gredu a pharchu dioddefwyr a...
Read MoreHetiau Beanie ar gyfer ‘Operation Christmas Child’
Diolch o galon i bawb fu’n gwau ar gyfer ‘Operation Christmas Child’! Cawsom focs yn llawn o hetiau o Fanceinion, bagiau o gapeli Nantglyn a Chefn Meiriadog a sawl bag gan unigolion o Lansannan – diolch yn fawr iawn ichi! Rhoddais yr hetiau i wirfoddolwraig yn Abergele sy’n gysylltiedig ag ‘Operation Christmas Child’ ac roedd hi wedi dotio atynt! Dwi’n cael fy atgoffa o’r adnod, ‘A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu’r person mwya dinod...
Read MoreDorcas yn Eglwys Nant Hall, Prestatyn
Arweiniodd Chris Rendall o Eglwys Nant Hall, Prestatyn, astudiaeth Feiblaidd ‘Gwraig fel Dorcas’ (yr adran gyntaf yn ffeil adnoddau Dorcas) yn wythnosol rhwng Medi a Hydref. Dyma ei hadroddiad hi: Ni lwyddasom i gadw’r rhifau ddaeth ar y noson gyntaf ond daeth 8-10 ar gyfartaledd i’r sesiynau canlynol. Cefais adborth positif gan y bobl hyn; roeddent yn teimlo eu bod wedi dysgu pethau newydd o’r sesiynau. Fe ddarganfyddom fod y sesiynau yn awr o hyd ac eithrio’r bedwaredd...
Read MoreCwrs Rhianta Llansannan
Wedi cyflwyniad ‘Rhaglen Dorcas’ i ferched Bro Aled ym mis Hydref y llynedd, penderfynwyd cynnal Cwrs Rhianta yn yr ardal er mwyn datblygu cysylltiadau’r capel gyda mamau ifanc y pentref. Am chwech wythnos felly, rhwng Mai a Gorffennaf, cynhaliwyd Cwrs Rhianta yn Llansannan gyda Siân Edwards o Goleg y Bala yn arwain. Defnyddiwyd deunydd sydd wedi ei gynhyrchu gan adran o’r elusen Cristnogol ‘Care for the Family’: mae gan yr adran ‘Positive Parenting’ amrywiaeth o gyrsiau ac adnoddau ar gyfer...
Read More
Sylwadau Diweddar